Gweithgareddau Allgymorth + Lleoliad, 2017/18 [] Outreach + Placement activities, 2017/18

Each year we are impressed by the dedication and work of all our students (https://psychcardiffmet.wordpress.com/2017/11/07/croeso-a-chroeso-yn-ol-welcome-and-welcome-back/).  This year, 84 students worked with more than 15 organizations developing new skills, working in multi-disciplinary teams, and learning how to apply psychology to real-life situations.

Here our Placement Coordinator, Dr Mirain Rhys, talks about the opportunities in the course:

The Psychology Undergraduate programme at Cardiff Metropolitan University offers work placement opportunities to those studying in their second and third years. Students complete a placement as part of the ‘Work and Volunteering in Applied Psychology’ (WVAP) module where they can choose to gain experience in one of five Psychology fields (forensic, health, educational, clinical or occupational Psychology). The module always proves very popular as it gives students a chance to apply the knowledge they’ve learnt in their lectures to real life scenarios, as well as give back to their local community.

 We work with a variety of approved placement providers who have been chosen specifically because of the clear links with Psychology. We have placements in mental health wards, schools, charities, the prison service, and students can also use their work place as a placement opportunity. We also work with an organisation to provide students with overseas placement opportunities in Sri Lanka and Bali https://psychcardiffmet.wordpress.com/2014/10/09/the-best-thing-i-have-ever-done-volunteering-with-slv/.

 

Every year, we strive to find exciting opportunities for our students by reaching out to new organisations who are interested in working with us. We ensure that our students are safe and well looked after by visiting each potential placement partner before teaming up, which always proves an interesting and eye-opening experience as it gives the placement team the opportunity to gain a real insight into what experiences the students will have whilst on placement.

 The module is based on a service learning model, where students are encouraged to think about the impact their volunteering has on the wider community. The partnership works well because organisations who rely on volunteers benefit from a steady flow of willing students, and students get a chance to interact with individuals who need their support to develop, which in turn aides their reflective practice for the module – win win!

 Students have to produce a reflective essay about their time on placement. The assignment varies slightly from year 2 to 3 but in essence, it aims to build on students’ reflective skills from the first-year module ‘Psychological Literacy’ by giving students a chance to use real life scenarios for their reflective practice. Reflection is a key skill within Psychology and the programme provides a reflective module in each undergraduate year.

 At the end of the module, students are assessed by their placement provider on their performance whilst on placement. The skills assessed are transferable employability skills and provide students with feedback on areas they do well in and might need to improve before they enter the world of work.

 The best part of being a placement coordinator is hearing about all the amazing experiences students have been involved in. The placement team have the opportunity to provide feedback from students to placement providers at the end of the year, but it’s also great to hear such positive feedback about our students from the organisations we work with – it makes all the hard work worthwhile!

One event we look forward to as a placement team is the Student Volunteering Cardiff annual general meeting. This event showcases all the amazing volunteering opportunities students from all over Cardiff and beyond participate in to help vulnerable individuals within the city in leading their best lives. There is an award ceremony and a chance to hear about how Cardiff Metropolitan University Psychology students have worked hard over the year to provide events such as a gardening club, mentoring and buddy schemes, social clubs and respite care, and some of our students are also lead volunteers and key members of the trustee group. It is a wonderful evening of reflection and admiration from the placement team as we realise how far our WVAP students have come in gaining vital employability and reflection skills, but also making a huge difference to people’s lives just by giving some of their time.

Do come and join us!

Gweithgareddau Allgymorth + Lleoliad, 2017/18

Bob blwyddyn, gwneir argraff arnom gan ymroddiad a gwaith ein holl fyfyrwyr (https://psychcardiffmet.wordpress.com/2017/11/07/croeso-a-chroeso-yn-ol-welcome-and-welcome-back/).  Eleni, bu 84 o fyfyrwyr yn gweithio gyda mwy na 15 o sefydliadau yn datblygu sgiliau newydd, yn gweithio mewn timau amlddisgyblaeth, ac yn dysgu sut i gymhwyso seicoleg i sefyllfaoedd go iawn.

Yma mae ein Cydlynydd Lleoliad, Dr Mirain Rhys, yn sôn am y cyfleoedd yn y cwrs:

 

Mae’r rhaglen Israddedig Seicoleg ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd yn cynnig cyfleoedd lleoliadau gwaith i’r rhai sy’n astudio yn eu hail a’u trydedd flwyddyn. Mae myfyrwyr yn cwblhau lleoliad fel rhan o’r modiwl ‘Gwaith a Gwirfoddoli mewn Seicoleg Gymhwysol’ (WVAP) (‘Work and Volunteering in Applied Psychology’) lle gallant ddewis ennill profiad mewn un o bum maes Seicoleg (Seicoleg fforensig, iechyd, addysgol, clinigol neu alwedigaethol). Mae’r modiwl bob amser yn boblogaidd iawn gan ei fod yn rhoi cyfle i fyfyrwyr gymhwyso’r wybodaeth y maent wedi’i ddysgu yn eu darlithoedd i sefyllfaoedd bywyd go iawn, yn ogystal â rhoi yn ôl i’w cymuned leol.

Rydym yn gweithio gydag amrywiaeth o ddarparwyr lleoliadau cymeradwy sydd wedi’u dewis yn benodol oherwydd y cysylltiadau clir â Seicoleg. Mae gennym leoliadau mewn wardiau iechyd meddwl, ysgolion, elusennau, y gwasanaeth carchardai, a gall myfyrwyr hefyd ddefnyddio eu man gwaith fel cyfle ar gyfer lleoliad. Rydym hefyd yn gweithio gyda sefydliad i ddarparu cyfleoedd lleoliad myfyrwyr dramor yn Sri Lanka a Bali https://psychcardiffmet.wordpress.com/2014/10/09/the-best-thing-i-have-ever-done-volunteering-with-slv/ .

 

Bob blwyddyn, rydym yn ymdrechu i ddod o hyd i gyfleoedd cyffrous i’n myfyrwyr trwy gyrraedd sefydliadau newydd sydd â diddordeb mewn gweithio gyda ni. Rydym yn sicrhau bod ein myfyrwyr yn ddiogel ac yn cael y gofal gorau trwy ymweld â phob partner lleoliad posibl cyn ymuno, sydd bob amser yn brofiad diddorol ac yn agoriad llygaid gan ei fod yn rhoi’r cyfle i’r tîm lleoliad gael cipolwg go iawn ar yr hyn y bydd y myfyrwyr yn ei brofi tra ar leoliad.

Mae’r modiwl yn seiliedig ar fodel dysgu gwasanaeth, lle caiff myfyrwyr eu hannog i feddwl am yr effaith y mae eu gwirfoddoli yn ei gael ar y gymuned ehangach. Mae’r bartneriaeth yn gweithio’n dda oherwydd bod sefydliadau sy’n dibynnu ar wirfoddolwyr yn elwa ar lif cyson o fyfyrwyr parod, ac mae myfyrwyr yn cael cyfle i ryngweithio gydag unigolion sydd angen eu cefnogaeth i ddatblygu, sydd, yn ei dro, yn cynorthwyo eu hymarfer myfyriol ar gyfer y modiwl – ennill bob ffordd!

 

Rhaid i fyfyrwyr gynhyrchu traethawd myfyriol am eu hamser ar leoliad. Mae’r aseiniad yn amrywio ychydig o flwyddyn 2 i 3 ond yn ei hanfod, mae’n anelu at adeiladu ar sgiliau myfyriol myfyrwyr o’r modiwl ‘Llythrennedd Seicolegol’ blwyddyn gyntaf trwy roi cyfle i fyfyrwyr ddefnyddio senarios bywyd go iawn ar gyfer eu hymarfer myfyriol. Mae myfyrio yn sgil allweddol o fewn Seicoleg ac mae’r rhaglen yn darparu modiwl myfyriol ym mhob blwyddyn israddedig.

Ar ddiwedd y modiwl, caiff myfyrwyr eu hasesu gan eu darparwr lleoliad ar eu perfformiad tra ar leoliad. Mae’r sgiliau a asesir yn sgiliau cyflogadwyedd trosglwyddadwy ac yn rhoi adborth i fyfyrwyr ar feysydd y maen nhw’n eu gwneud yn dda ac efallai y bydd angen iddynt wella cyn iddynt fynd i fyd gwaith.

 

Y rhan orau o fod yn gydlynydd lleoliad yw clywed am yr holl brofiadau anhygoel y mae myfyrwyr wedi cymryd rhan ynddynt. Mae’r tîm lleoliad yn cael cyfle i roi adborth gan fyfyrwyr i ddarparwyr lleoliad ar ddiwedd y flwyddyn, ond mae hefyd yn wych clywed adborth mor gadarnhaol am ein myfyrwyr o’r sefydliadau rydym yn gweithio gyda nhw – mae’n gwneud yr holl waith caled yn werth chweil!

 

Un digwyddiad yr ydym yn edrych ymlaen ato fel tîm lleoliad yw cyfarfod cyffredinol blynyddol Gwirfoddoli Myfyrwyr Caerdydd. Mae’r digwyddiad hwn yn arddangos yr holl gyfleoedd gwirfoddoli anhygoel mae myfyrwyr o bob cwr o Gaerdydd a thu hwnt yn cymryd rhan ynddynt i helpu unigolion bregus yn y ddinas i arwain eu bywydau gorau. Mae yna seremoni wobrwyo a chyfle i glywed am sut mae myfyrwyr Seicoleg Prifysgol Metropolitan Caerdydd wedi gweithio’n galed dros y flwyddyn i ddarparu digwyddiadau fel clwb garddio, cynlluniau mentora a chyfeillion, clybiau cymdeithasol a gofal seibiant, ac mae rhai o’n myfyrwyr hefyd yn wirfoddolwyr arweiniol ac aelodau allweddol y grŵp ymddiriedolwyr. Mae’n noson wych o fyfyrio ac edmygedd gan y tîm lleoliad wrth i ni sylweddoli pa mor bell mae ein myfyrwyr WVAP wedi dod i ennill sgiliau cyflogadwyedd a myfyrio hanfodol, ond hefyd gwneud gwahaniaeth enfawr i fywydau pobl yn unig drwy roi peth o’u hamser.

 Dewch i ymuno â ni!

Advertisements


Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out /  Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s