Cangen Cymru o Gymdeithas Seicolegol Prydain [BPS] Welsh Branch Student Conference

Bob blwyddyn mae Cangen Cymru o’r BPS yn trefnu cynhadledd myfyrwyr ar gyfer myfyrwyr y flwyddyn olaf ac ôl-raddedigion i arddangos eu gwaith ymchwil. Eleni, roeddem yn ffodus gan i’r gynhadledd gael ei chynnal ym Met Caerdydd ar ddiwedd mis Mawrth. Yma mae Dr Nick Perham yn sôn am y gynhadledd.

Cynhadledd Myfyrwyr Cymru o Gymdeithas Seicolegol Prydain – cyfle gwych i fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig y flwyddyn olaf i ledaenu eu Prosiectau i gynulleidfa dderbyngar, wybodus ac sydd â diddordeb. Bu’n dipyn o amser ers i mi fynychu un o’r cynadleddau hyn ond unwaith eto gwnaethpwyd argraff aruthrol arnaf o ganlyniad i ystod eang a dyfnder y pynciau a’r wybodaeth a ddangosodd y myfyrwyr.

Cynhaliwyd cynhadledd eleni ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd ac roedd wedi bod yn naw mlynedd ers iddi gael ei chynnal yma ddiwethaf. Byddai unrhyw un nad oedd wedi bod ar y campws ers hynny wedi sylwi ar y nifer o newidiadau sydd wedi digwydd ers hynny, yn enwedig yr enw.

Dechreuodd y gynhadledd gyda Dr Paul Hutchings yn gosod yr olygfa ar gyfer digwyddiadau’r dydd a thawelu nerfau pawb. Yna symudom i dri sesiwn cyfochrog yn y bore. Roedd sgyrsiau yn amrywio o edrych ar y rhagfynegydd gorau o grefyddrwydd i ddefnyddio defnydd caethiwus ar y rhyngrwyd i ragfynegi camddefnyddio sylweddau, o empathi poen tuag at robot i wahaniaethau rhywedd mewn sweipio ap detio ar-lein, a pherthnasoedd agos i ofalu am unigolion â dementia o safbwynt dyn.

 

Yn ystod cinio pleserus iawn, cafodd y rhai a fynychodd gyfle i gymysgu a gweld y posteri a oedd yn cynnwys pynciau megis effaith lle glas / gwyrdd ar straen, effaith, a hapusrwydd, a datblygu rhaglen llesiant gadarnhaol i fyfyrwyr prifysgol. Ar ôl cinio, cawsom ddwy sesiwn gyfochrog arall.

I gloi’r gynhadledd, rhoddais y prif anerchiad a aeth yn dda yn fy marn i – ni syrthiodd neb i gysgu, roedd y gynulleidfa yn rhyngweithio â mi, roedd pobl yn chwerthin â mi yn hytrach nag ar fy mhen, ac roedd y cwestiynau’n wybodus iawn. Wrth gloi’r digwyddiad cyfan, dyfarnodd Dr Paul Hutchings y gwobrau am y poster gorau a’r ail – Rebecca Nicholls (Prifysgol Metropolitan Caerdydd) a Murat Karakas (Prifysgol Bangor) yn y drefn honno – ac am y sgwrs orau a’r ail – Bethan Elliott (Prifysgol Metropolitan Caerdydd) a John Butler (Prifysgol Caerdydd) yn y drefn honno.

Wedi bod yn gadeirydd cangen Cymru, yr wyf yn ymwybodol iawn o faint o amser ac ymdrech sydd yn ofynnol fel rhan o’r cynadleddau hyn, yn enwedig pan fyddant fel arfer yn cael eu gwneud trwy ewyllys da’r aelodau. Diolch i bawb sydd wedi helpu i drefnu digwyddiad sydd wedi rhedeg mor llyfn.

Felly, o’i hystyried yn ei chyfanrwydd, cynhadledd wych. Fe’ch gwelwn i gyd eto’r flwyddyn nesaf.

Roedd gan Becky y canlynol i’w ddweud am y digwyddiad:

“Roedd cynhadledd myfyrwyr BPS yn brofiad gwerthfawr iawn, rhoddodd ddealltwriaeth well i mi o’r BPS cyfan, a’r ffordd y byddai cynhadledd fel arfer yn rhedeg. Roedd hefyd yn ddiddorol iawn clywed am brosiectau myfyrwyr eraill o blith israddedigion a graddau meistr. Byddwn yn argymell yn fawr i unrhyw un fynychu gan y bydd hefyd yn ychwanegiad da i’ch CV, ac edrychaf ymlaen at fynychu’r flwyddyn nesaf gyda’m prosiect meistr.”

Aeth Bethan yn syth at y pwynt yn dweud hyn:

“Roedd yn wych, wir wedi mwynhau”

 

BPS Welsh Branch Student Conference

Each year the BPS Welsh Branch organises a student conference for final year students and postgraduates to showcase their research work.  This year we were fortunate as the conference was held at Cardiff Met at the end of March.  Here Dr Nick Perham talks about the conference.

The Welsh British Psychological Society Student conference – a fantastic opportunity for final year undergraduate student and postgraduate students to disseminate their Projects to a receptive, knowledgeable, and interested audience. It has been a while since I attended one of these conferences but once again I was incredibly impressed at the sheer range and depths of topics and knowledge that students demonstrated.

This year’s conference was held at Cardiff Metropolitan University and it had been nine years since it was last held here. Anyone who had not been on campus since then would have noticed the many changes that have taken place since then, not least of all the name.

The conference started with Dr Paul Hutchings setting the scene for the day’s events and calming everyone’s nerves. We then moved onto three parallel sessions in the morning. Talks ranged from exploring the best predictor of religiosity to using addictive internet use to predict substance abuse, from pain empathy toward a robot to gender differences in online dating app swipes, and from a male perspective of intimate relationships to caring for individuals with dementia.

During a very enjoyable lunch, attendees had the opportunity to mingle and view the posters which covered topics such as the impact of blue/green space on stress, affect, and happiness, and developing a positive wellbeing programme for university students. After lunch we had two more parallel sessions.

 

To conclude the conference I gave the keynote address which I feel went well – no one fell asleep, the audience interacted with me, people laughed with me rather than at me, and the questions were very insightful. In wrapping up the whole event, Dr Paul Hutchings awarded the prizes for first and second best posters – Rebecca Nicholls (Cardiff Metropolitan University) and Murat Karakas (Bangor University) respectively – and for first and second best talks – Bethan Elliott (Cardiff Metropolitan University) and John Butler (Cardiff University) respectively.

Having been chair of the Welsh branch, I am acutely aware of how much time and effort these conferences require especially when they are usually done through members’ goodwill. Thank you to all of those who helped out in organising such a smoothly-run event.

So, all in all, a wonderful conference. See you all again next year.

Becky had this to say about the event:

“The BPS student conference was a really valuable experience, it gave me a better understanding of both the BPS as a whole, and the way in which a conference would typically run. It was also very interesting to hear about other students projects from undergraduate and masters. I would highly recommend anyone to attend as it will also make a nice addition to a CV, and I look forward to attending next year with my masters project.”

And Bethan got straight to the point saying this,

“it was wonderful, really enjoyed it.”

 

 

 

 

 

 

Advertisements


Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out /  Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

w

Connecting to %s