Para-athletwr elit yn y gamp tenis cadair olwyn, a myfyriwr Seicoleg

Mae Fran Smith yn fyfyrwraig lefel 4 ar y cwrs BSc Seicoleg ym Mrhifysgol Metropolitan Caerdydd. Yma, mae hi’n dweud wrthym am rhan arall pwysig iawn o’i bywyd ble mae hi’n hyfforddi fel chwaraewr tenis cadair olwyn a sut mae Seicoleg wedi helpu gyda hyn.

 

Fy enw yw Fran Smith, rwy’n 18 oed, ac yn bara-athletwr elit yn y gamp tenis cadair olwyn. Cefais gyfle i fynychu fy ngwersyll tenis cadair olwyn cyntaf ar 05/06/17 ac ar hyn o bryd rwyf wedi cyrraedd y brig o blith merched iau Prydain ac yn dal safle 38 o blith merched iau y byd. Ar hyn o bryd rwyf yn fy chweched mis o chwarae ac yn ystod y cyfnod hwnnw rwyf wedi ennill yr aur mewn tenis merched iau i senglau a pharau yn y British Open yng Ngemau Ysgolion 2017.

Mae hyn yn swnio’n dipyn o gamp, tydi? Efallai fod hynny’n wir, ond wnes i ddim eistedd mewn cadair olwyn chwaraeon gyda raced tenis a datblygu’r gallu anhygoel i chwarae.

Roeddwn i eisoes wedi chwarae tenis am 13 mlynedd gan ddefnyddio fy nghoesau. Ond erbyn imi gyrraedd 16 oed roedd rhaid i mi roi’r gorau iddi oherwydd nid oedd fy nghorff yn ymdopi, ac roedd y perygl o wneud niwed difrifol i’m coesau yn rhy uchel. Am 6 blynedd rwyf wedi bod mewn brwydr gyda’m corff a gyda’r Gwasanaeth Iechyd. Gyda’i gilydd, rwyf wedi gweld 6 ffisiotherapydd (2 arbenigwr), 2 rhiwmatolegydd, 1 niwrolegydd, 1 arbenigwr clust-trwyn-gwddf (ENT) ac un meddyg teulu pryderus dros ben.

Pe byddech chi’n fy ngweld i, fyddech chi ddim yn meddwl bod gen i anabledd (rwy’n dal i aros i rywun ddod i weiddi arnaf mewn maes parcio na ddylwn i fod yn deilwng i gael bathodyn glas), yn bennaf oherwydd fy mod i’n gallu cerdded.

Mae seicoleg yn hanfodol i mi, yn enwedig gan fy mod yn dod yn fy mlaen mor gyflym yn fy nghamp. Y llynedd, roeddwn i’n drist drwy’r amser, yn fwy trist nag arfer, oherwydd doedd gen i ddim chwaraeon yn fy mywyd, ac yn teimlo bod gen i ddim byd i’w wneud, dim uchelgais, ac yn y bôn, dim bywyd. Roedd y tristwch hwn yn gwneud imi fyw yn fy mhen yn ormodol a gor-ddadansoddi pob manylyn fyddwn i’n ei gael. Wrth lwc, llwyddais i roi trefn ar fy hun cyn imi droi yn gadach llestri am weddill fy oes!

Mae fy nghwrs seicoleg wedi fy helpu i mewn sawl ffordd. Un o’r pethau pwysicaf rydw i wedi ei ddysgu yw sut mae eich gwrthwynebwyr yn mynd i ymateb mewn gêm; beth mae eu hosgo, eu hedrychiad, eu safiad, eu symudiad a’u patrwm o chwarae yn ei ddweud wrthyf. Ond mae un peth sydd hyd yn oed yn bwysicach na’r rheiny; fy seicoleg fy hun. Yr elfen fawr yw fi fy hun yn byw y tu mewn i’m pen ar y cwrt oherwydd, wrth gwrs, mewn gêm senglau, dim ond chi a’ch gwrthwynebydd sydd yno. Rwy’n gwybod nawr os oes rhywbeth yn mynd o le ar y cwrt bod angen i mi newid pethau yn y fan a’r lle, ac yna, mae angen meddwl beth all fynd o le a pham.

Enghraifft wych yw’r gystadleuaeth ddiwethaf yr oeddwn i’n cystadlu ynddi, sef y Wheelchair Tennis Nationals cyn y Nadolig 2017. Collais y gêm gyntaf achos ’mod i’n teimlo fel pe bai gen i gartŵn o geiliog deri yn fy mhen. Yn hytrach na chanolbwyntio ar fy ngwrthwynebydd, roeddwn i’n meddwl yn ormodol am yr elfennau yn fy arddull i. Ar ôl imi gael ychydig o amser i feddwl, sylweddolais mai’r rheswm roeddwn i wedi colli’r gêm oedd fod gormod o bobl wedi bod yn gofyn imi beth oedd fy nghynllun ar gyfer y gêm, sut oeddwn i am eu trechu nhw, pa strategaethau oedd gen i, ac ati. Mae gormod o hyn cyn mynd allan i chwarae yn gallu bod yn llethol.

Diogel yw dweud, erbyn imi chwarae’r gêm gysur gyntaf, roeddwn i wedi rhoi’r gorau i’r ceiliog deri, ac wedi dileu popeth o’m meddwl. Canolbwyntiais ar ddim ond chwarae tenis, ac yn sgil hynny, llwyddais i ennill y rownd gysur a churo dwy ferch sy’n cystadlu yn fy erbyn am le yn nhimau Prydain. A dweud y gwir, yn ystod y ddwy gêm honno, doeddwn i ddim yn teimlo bod gen i ymennydd, yr unig beth yn fy mhen oedd pêl denis.

Yn amlwg, dim ond camau bychain ar y daith yw’r rhain, ond mae seicoleg wedi dysgu un peth i mi, mae wedi fy nysgu i stopio a meddwl. Ac os nad oes gennych chi fawr ddim synnwyr cyffredin, fel fi, mae hynny yn rhywbeth pwysig dros ben.

 

Advertisements


Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out /  Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s