Datblygu’r Gymraeg mewn Seicoleg

Fel adran Seicoleg, sy’n falch o fod yn rhan o brifysgol yng Nghymru ym mhrifddinas Cymru, yr ydym wedi bod yn awyddus i adlewyrchu treftadaeth iaith llawer o’n myfyrwyr ers nifer o flynyddoedd. Rydyn ni wedi cyfieithu gwaith myfyrwyr, asesiadau a phob math o bethau, ond heb yr ymgysylltiad yr ydym yn ei wir ddymuno. Roedd yn weddol amlwg yr hyn oedd ar goll, sef staff a oedd yn ddigon hyderus i weithio ac addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg. Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, rydym wedi gwneud penodiadau staff sydd wedi ein galluogi i ddechrau adeiladu’r hyn yr oeddem yn ei ddymuno. Yn y flwyddyn gyntaf, mae gennym yn awr sesiynau tiwtorial a seminarau yn y Gymraeg, sy’n helpu myfyrwyr i weithio a meddwl mewn dwy iaith. Rydym yn cynnig lleoliadau gwaith yn Gymraeg yn yr ail a’r drydedd flwyddyn, gan gynnig cyfle i fyfyrwyr weithio yn y gymuned gyda siaradwyr Cymraeg.

Mae ychwanegu cyfleoedd yn y Gymraeg yn cryfhau ac yn galluogi cysylltiadau agosach â chymunedau ledled Cymru, ac mae’n ychwanegu at amrywiaeth a bywiogrwydd Seicoleg ym Met Caerdydd. Yn y darn canlynol, mae ein cydweithiwr, Dr Mirain Rhys, yn sôn am yr iaith Gymraeg, ei rôl a sut mae hi’n gweithio i adeiladu mwy o gynnwys Cymraeg i’n cwricwlwm.

Seicoleg drwy gyfrwng y Gymraeg ym Met Caerdydd

Mae bob amser yn fy synnu fod rhaid i mi weithiau esbonio fy mod yn dod o gartref lle mai dim ond Cymraeg sy’n cael ei siarad, ac mai Saesneg yw fy ail iaith. Fe’m codwyd mewn tref lle mae dros 70% o’r boblogaeth yn rhugl yn y Gymraeg. Cefais fy addysg yn gyfangwbl trwy gyfrwng y Gymraeg hyd nes fy mod i’n 18 oed. Rwy’n siarad Cymraeg bob dydd ac yr wyf yn ymfalchïo yn esbonio fy mod o gefndir iaith leiafrifol, ac mai fy angerdd am gynhaliaeth ac adfywiad ar gyfer iaith ein gwlad fu’n gyfrifol am fy arwain i’m gyrfa.

Ac nid dim ond fi sydd yn y sefyllfa yma! Addysgir bron i chwarter o’r boblogaeth yng Nghymru trwy gyfrwng y Gymraeg. Maent yn dysgu terminoleg pwnc ac yn cael eu cyfarwyddo drwy’r iaith ac erbyn iddynt orffen addysg orfodol, dylai pob unigolyn fod yn ddwyieithog. Ar ôl i fyfyrwyr orffen yr ysgol, mae addysg yn dod yn ddewis. Mae yna lawer o ddewisiadau i’w gwneud wrth gwrs, a bydd rhai yn penderfynu eu bod am wneud cais i Brifysgol. Yng Nghymru, mae dewis arall yn dechrau ennill momentwm – a ydych chi’n astudio gradd trwy gyfrwng y Gymraeg ai peidio?

Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol  yn sefydliad sy’n gweithio ar draws holl Brifysgolion Cymru. Ei brif nod yw darparu addysg uwch cyfrwng Cymraeg mewn amrywiaeth o bynciau. Bu nifer o lwyddiannau amrywiol, a gall myfyrwyr ledled Cymru bellach astudio rhan, neu ei gradd gyfan yn y celfyddydau, gwyddorau, gwyddorau cymdeithasol neu gradd iechyd trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’n gwneud llawer o synnwyr i barhau i astudio yn yr iaith y cynhaliwyd y rhan fwyaf o’ch addysg ynddi. Rydych eisoes yn ymwybodol o’r derminoleg sy’n gysylltiedig a byddwch mae’n debyg yn ddefnyddiwr cymwys o’r derminoleg honno yn Saesneg yn ogystal â’ch astudiaethau gradd. Mae dwyieithrwydd yn eich gwasanaethu’n dda fel myfyriwr graddedig mewn marchnad lafur gystadleuol gyson. Mae angen llawer o weithwyr Cymraeg eu hiaith i lawer o ddiwydiannau i gyflawni eu busnes, ac mae hyn yn arbennig o wir am raddedigion y Gwyddorau Iechyd; Mae seicoleg yn rhan bwysig o’r gwyddorau iechyd. Dychmygwch fod eisiau siarad â rhywun am bethau anodd yn eich bywyd, ond rhaid i chi wneud hynny gan ddefnyddio geiriau a thermau nad ydych chi’n teimlo’n gyfforddus â nhw.

MResiedfoddod

Mirain yn yr Eisteddfod yn barod i siarad am y mythau am Seicoleg.

Rwyf bellach wedi bod yn aelod o staff yn yr adran Seicoleg Gymhwysol ers ychydig dros flwyddyn. Un o gyfrifoldebau fy swydd fel darlithydd Seicoleg sy’n siarad Cymraeg yw cefnogi myfyrwyr sydd wedi cwblhau’r rhan fwyaf o’u haddysg trwy’r Gymraeg a’u bod bellach yn trosglwyddo i brofiad ieithyddol gwahanol iawn.

Eleni, rydym wedi dechrau darparu darpariaeth cyfrwng Cymraeg. Y nod yw paratoi’r ffordd i’r myfyrwyr hynny a allai deimlo bod mynd o gael eu haddysgu yn yr ysgol neu’r coleg mewn un iaith i’w haddysgu ar lefel gradd mewn un arall, yn ogystal â’r holl bryderon eraill sy’n dod wrth ddechrau Prifysgol, yn llethol.  Cynigir tiwtorial dwyieithog i fyfyrwyr blwyddyn gyntaf lle datblygir eu medrau astudio i gyd-fynd â’u darlithoedd cynnwys. Darperir yr un deunydd cyfrwng Saesneg i’r myfyrwyr â’r grwpiau eraill, ond mae gennym drafodaethau yn y Gymraeg sy’n ymwneud â’u sgiliau trawsieithu, un o’r manteision niferus o siarad mwy nag un iaith!

wcommun

Ein nod ar gyfer y dyfodol yw parhau i weithio’n agos gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i ddatblygu modiwlau a gredydir a fydd ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg. Rwyf ar hyn o bryd yn ymchwilio i ddichonoldeb datblygu darpariaeth cyfrwng Cymraeg ar gyfer yr ysgol gyfan gyda’r nod o ddarparu data craff i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar yr heriau a’r cyfleoedd, o ymgorffori’r Gymraeg i mewn i lawer o adrannau parod. Bydd yr hyn yr ydym yn ei wneud yn yr adran Seicoleg yn helpu gyda’r datblygiadau hyn a bydd mwy o bostiadau blog yn dilyn y datblygiadau cyffrous hyn.

Wrth gwrs, nid pob myfyriwr all siarad Cymraeg, ac nid pawb sy’n gallu ei defnyddio o fewn eu haddysg. Ond bydd yr elfen o ddewis sy’n hollbwysig ym mhob sefyllfa ieithoedd lleiafrifol yn cael ei ymgorffori ymhellach i Seicoleg ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd fel y gall pob myfyriwr barhau â’u taith addysgol trwy’r naill neu’r llall o ieithoedd swyddogol Cymru.

Yn ystod haf 2017, mynychodd Mirain yr Eisteddfod gyda chydweithwyr o’r adran Seicoleg, a chafodd ei dal ar gamera gan S4C:

Mirain ar S4C yn yr Eisteddfod

Rwy’n falch iawn o’r ffordd yr ydym yn cefnogi Cymraeg yn allanol yn awr, a gellir gweld hyn yn cael ei adlewyrchu mewn sylwadau gan ein cydweithiwr, Dr Delyth James:

Ymunais â’r Adran Seicoleg Gymhwysol ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd yn 2015, ar ôl gweithio ym Mhrifysgol Caerdydd ers dros ddeng mlynedd. Yno yn yr Ysgol Fferylliaeth, datblygais y ddarpariaeth Gymraeg ar draws pob un o’r rhaglenni ôl-raddedig 4-blynedd ar gyfer y Radd mewn Fferylliaeth, gan ganolbwyntio’n bennaf ar ddatblygu sgiliau cyfathrebu ac ymgynghori myfyrwyr a fferyllfeydd ac ymarferwyr yn y Gymraeg (neu’n ddwyieithog).

Pan ymunais â Phrifysgol Met Caerdydd, roeddwn wrth fy modd dod o hyd i amgylchedd croesawgar a chefnogol i barhau â’r gwaith hwn ac ehangu’r ddarpariaeth Gymraeg i weithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill a myfyrwyr seicoleg. Rydym yn cydweithio’n agos â chydweithwyr ar draws Prifysgolion eraill yng Nghymru a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Er enghraifft, cyflwynodd Mirain a minnau yn ddiweddar weithdy Cymraeg ar gyfer myfyrwyr Meddygol a Fferylliaeth ym Mhrifysgol Caerdydd ar y testun ‘Dibynniaeth’ (Addiction).

Rwy’n siŵr y byddai Mirain a Dan yn cytuno â mi fod yna brysurdeb gwirioneddol ac ymdeimlad o frwdfrydedd yn y Brifysgol ar gyfer meithrin a defnyddio ein sgiliau iaith Gymraeg o ddydd i ddydd yn y gweithle ac wrth baratoi ar gyfer cyfleoedd cyflogaeth myfyrwyr yng Nghymru ar ôl iddynt raddio.

Mae yna lawer o frwdfrydedd dros gefnogi ac annog ein holl fyfyrwyr i ddatblygu sgiliau ar gyfer y dyfodol, ac rydym yn ymfalchïo yn y gwaith rhagorol y mae myfyrwyr yn ei wneud gyda’n holl bartneriaid lleoliadau. Rydym am ddarparu’r sgiliau angenrheidiol i’r myfyrwyr ar gyfer y dyfodol, ac un ffordd y gallwn ni wneud hynny yw cydnabod pwysigrwydd iaith wrth ymgysylltu â’r cymunedau o’n cwmpas. Mae’r mentrau Cymraeg yr ydym wedi’u dechrau yn cyfoethogi ein hadran, ac mae canlyniadau cyffredinol ehangach i ni i gyd y tu hwnt i’n gwaith bob dydd. Edrychaf ymlaen at ddangos mwy o waith iaith a lleoliadau’r adran!

 

Advertisements


Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out /  Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s